Tai Ceredigion Cyfyngedig

thumb_up 768 likes
favorite 7 favorites
Tai Ceredigion Cyf, Unit 4, Pont Steffan Business Park
SA48 7HH Lampeter, United Kingdom
phone
Click to show phone
Request for information

Tai Ceredigion Cyfyngedig Company Information

General information

Tîm Gweithredol

Steve Jones, Prif Weithredwr

Bu Steve, a ymgymerodd â’i swydd ar 27ain o Ebrill 2009, gynt yn Gyfarwyddwr Grŵp Gwasanaethau Cymunedol yng Ngrŵp Tai Pennaf yng Ngogledd Cymru.

Steve Jones
Mae Steve wedi bod yn gweithio ym maes tai am dros 25 mlynedd mewn nifer o swyddogaethau ar draws y wlad gan gynnwys Ynys Môn, Cyngor Dinas Sheffield a’r Alban, ar ôl iddo ennill gradd mewn Tai ym Mhrifysgol Hallam Sheffield. Y mae’n medru Cymraeg yn rhugl ac y mae wedi gwasanaethu ar nifer o gyrff tai cenedlaethol gan gynnwys Cyngor Cenedlaethol Cartrefi Cymunedol Cymru. Bu Steve yn Gadeirydd Annibynnol ar bartneriaeth adfywio Caergybi Ymlaen rhwng 2005 a 2009, ac y mae ar hyn o bryd yn Gadeirydd ar Fforwm Tai Gwledig Cymru Gyfan.

"Rwyf wrth fy modd o fod wedi cael fy mhenodi’n Brif Weithredwr i’r Gymdeithas Tai newydd hon, ac rwyf yn edrych ymlaen at gwrdd â chymaint ag sy’n bosib o denantiaid a lesddeiliaid yn ystod yr wythnosau a’r misoedd i ddod mewn cyfarfodydd ymgynghori ac wrth inni fynd am dro o gwmpas ystadau fel yr ydym yn cynllunio ei wneud."

"Er ein bod ni i gyd wedi bod yn gweithio’n galed ar y paratoadau i greu Tai Ceredigion yn gwmni di-elw newydd, nawr, yn syth ar ôl i’r trosglwyddiad ddigwydd, ac wrth i Dai Ceredigion ddechrau darparu gwasanaethau a gwella cartrefi, y mae’r gwaith go iawn yn dechrau."

Katrina Michael, Dirprwy Brif Weithredwr

Mae Katrina yn ymuno â Thai Ceredigion o Dai Canolbarth Cymru lle roedd yn Ddirprwy Brif Weithredwr.

Katrina Michael
Mae Katrina yn gweithio ym maes tai ers dros 15 mlynedd a’i phrif swyddogaeth gyda Thai Ceredigion fydd gweithio gyda’r Prif Weithredwr i sefydlu’r gymdeithas, a hithau’n canolbwyntio ar Gyllid, TG, Rheoli Perfformiad ac Adnoddau Dynol.

Mae Katrina, sy’n dysgu’r Gymraeg, yn frwd ynghylch hunangynhaliaeth ac mae’n byw ar dyddyn ger Machynlleth. Meddai hi: “Rwyf yn teimlo’n gyffrous iawn am y dechreuad newydd hwn. Mae’r addewidion a wnaed i denantiaid am safon cartrefi a gwasanaethau gyda Thai Ceredigion yn rhagorol ac yn ystod y blynyddoedd nesaf byddwn yn gweddnewid cartrefi.”

Eleri Jenkins, Cyfarwyddwr Tai a Chefnogaeth

Mae Eleri yn gyfrifol am wasanaethau rheoli tai, gan gynnwys cefnogaeth i drigolion hŷn a thrigolion ddiamddifyn.

Eleri Jenkins
Mae gan Eleri dros 27 mlynedd o brofiad ym mhob agwedd ar reoli tai. Mae hi wedi gweithio o’r blaen i awdurdod lleol a chymdeithas tai.

“Fy mhrif orchwyl i yn ystod y misoedd nesaf fydd sicrhau trosglwyddiad rhwydd o’r Cyngor i Dai Ceredigion, gan wneud yn siŵr y gall pobl ar y diwrnod cyntaf dalu eu rhent a rhoi gwybod am atgyweiriadau. Rydym hefyd yn gweithio ar lawlyfr newydd y tenantiaid, ehangu ar y wefan hon, ac ar sut y gallwn wella gwasanaethau. Rwyf am weld tenantiaid a lesddeiliaid yn chwarae rhan wirioneddol yn y dyfodol i helpu i siapio’r ffordd y byddwn yn darparu ac yn gwella gwasanaethau tai.”

Llyr Edwards, Cyfarwyddwr Gwasanaethau Eiddo

Llyr Edwards yw’r Cyfarwyddwr Gwasanaethau Eiddo, gyda’r cyfrifoldeb am gynnal a chadw a gwelliannau gan gynnwys atgyweiriadau o ddydd i ddydd a’r rhaglen welliannau £40m i sicrhau bod cartrefi’n cwrdd â Safon Ansawdd Tai Cymru.

Llyr Edwards
Bu Llyr yn gweithio o’r blaen i Gymdeithas Tai Eryri lle yr oedd, fel Cyfarwyddwr Gwasanaethau Eiddo, yn rheoli cyllidebau o filiynau o bunnoedd ar gyfer cynnal a chadw’r cartrefi a oedd eisoes yn bodoli yn ogystal ag adeiladu rhai newydd. Mae ganddo dros 14 blynedd o brofiad yn y diwydiant adeiladu a chynnal a chadw ac mewn swyddogaethau blaenorol y mae wedi gweithio ar brosiectau ledled y Deyrnas Unedig i adeiladu llety i fyfyrwyr. Mae gan Llyr radd mewn Technoleg a Rheolaeth Adeiladu, y mae’n medru’r Gymraeg yn rhugl ac yn mwynhau cerdded yn ei amser hamdden.

Meddai Llyr; “Rwyf yn edrych ymlaen at yr heriadau sy’n wynebu Tai Ceredigion a’r cyfleoedd sy’n dod o fod yn rhan o dîm newydd sbon gyda sefydliad newydd sbon. Yn ystod y blynyddoedd nesaf mi wnawn wahaniaeth go iawn i fywydau pobl a bydd yn hyfryd cael gweithio mewn rhan mor brydferth o’r wlad.”

Executive Team

Steve Jones, Chief Executive

Steve, who took up his post on 27th April 2009, was previously Group Director of Community Services at Pennaf Housing Group in North Wales.

Steve Jones
Steve has worked in housing for over 25 years in a number of roles across the country including Anglesey, Sheffield City Council and Scotland, following his Housing degree graduation at Sheffield Hallam University . He is a fluent Welsh speaker and has served on a number of national housing bodies including the Community Housing Cymru National Council. Steve was Independent Chairman of Holyhead Forward regeneration partnership between 2005 and 2009, and is currently Chairman of the All Wales Rural Housing Forum.

"I am delighted to have been appointed as Chief Executive of this new Housing Association, and I look forward to meeting as many tenants and leaseholders as possible over the coming weeks and months at consultation meetings and on our planned estate walkabouts."

"Although we have all been working hard on the preparations to create Tai Ceredigion as a new not for profit company, the real work starts now immediately after the transfer has taken place, and when Tai Ceredigion starts delivering services and improving homes."

Katrina Michael, Deputy Chief Executive

Katrina joins Tai Ceredigion from Mid-Wales Housing where she was Deputy Chief Executive.

Katrina Michael
Katrina has worked in housing for over 15 years and her main role with Tai Ceredigion will be to work with the Chief Executive to establish the association, concentrating on Finance, IT, Performance Management and Human Resources.

Katrina, who is learning Welsh, is keen on self-sufficiency and lives on a smallholding near Machynlleth. She said: “I’m very excited about this new beginning. The promises made to tenants about the standard of homes and services with Tai Ceredigion are excellent and over the next few years we will be transforming homes.”

Eleri Jenkins, Director of Housing and Support

Eleri is responsible for housing management services, including support for older and vulnerable residents.

Eleri Jenkins
Eleri has over 27 years of experience in all aspects of housing management. She has previously worked for a local authority and housing association.

“My main tasks over the next few months will be to ensure a smooth transition from the Council to Tai Ceredigion, making sure that on day one people can pay their rent and report a repair. We are also working on the new tenants handbook, expanding this website, and on how we can improve services. I want to see tenants and leaseholders play a real role in the future to help shape how we deliver and improve housing services.”

Llyr Edwards, Director of Property Services

Llyr Edwards is the Director of Property Services, with the responsibility for maintenance and improvements including day to day repairs and the £40m improvement programme to ensure homes meet the Welsh Quality Housing Standard.

Llyr Edwards
Llyr previously worked for Cymdeithas Tai Eryri where as Director of Property Services he managed multi-million pound budgets for both the maintenance of existing homes and the building of new ones. He has over 14 years experience in the building and maintenance industry and previous roles have seen him work on projects throughout the UK building student accommodation. Llyr has a degree in Building Technology and Management, is a fluent Welsh speaker and enjoys walking in his free time.

Llyr said; “I’m looking forward to the challenges that face Tai Ceredigion and the opportunities that come from being part of a brand new team with a brand new organisation. Over the next few years we will make a real difference to people’s lives and it will be lovely to work in such a beautiful part of the country.”

Tai Ceredigion Cyf, Unit 4, Pont Steffan Business Park Lampeter

Opening hours
Monday:
09:00 - 17:00
Tuesday:
09:00 - 17:00
Wednesday:
09:00 - 17:00
Thursday:
09:00 - 17:00
Friday:
09:00 - 17:00
Parking
The company has a parking lot.
Phone number
+443456067654
Linki
Social Accounts
Keywords
housing association

Tai Ceredigion Cyfyngedig Reviews & Ratings

How do you rate this company?

Are you the owner of this company? If so, do not lose the opportunity to update your company's profile, add products, offers and higher position in search engines.

A similiar page for your business? Make sure everyone can find you and your offer. Create your dedicated company page on Yellow Pages Network - it's simply and easy!
Add your company